Thank You,Drive! Y llawlyfr


“Thank you, driver” Print by @aishlingdraws

Do you say, ‘Cheers, drive’ or even, ‘Thank you, driver’ when getting off a bus? If you live in South Wales or South London, then maybe you do …

“More than 100 London bus and Tube workers are known to have died from Covid-19, new figures show. Of those who died from the virus, 75 worked on London buses.”
BBC News, 13.6.22

~~~~~~~

“Bydd y tŷ yn berffaith, Bethan,” meddai mam — yn Saesneg, a dweud y gwir. Ac wedyn, “It’ll all be over soon!” Paciais mewn panig.

Dw i’n mynd i symud i mewn i “Tŷ Perffaith” ffrind mam.
“They’re closing the border, so she’s home for a spell.” Dyna fy mam yn Saesneg eto.

Golwg dywyll oedd ar y tŷ wrth gyrraedd. Gwnes i fflipio’r switsh a … Nefi Blw! Mae’r canhwyllyr yn rhy fawr ac yn rhy lachar yn y lolfa fach ‘ma. Rhoddais fy nghês i lawr. Doedd dim lle i fy mhethau oherwydd y tylwyth teg crochenwaith a’r casgliad o grisialau pinc ar bob wyneb.

“Cofia,” meddai mam ar y ffon, “Dw i jyst ar y cornel, Bethan.” 
Ar y cornel and a world away.

Tŷ Perffaith? Dylai fod mwy nag un llyfr mewn tŷ perffaith.
Un llyfr.
Dw i wedi ffeindio cerdyn yn y llyfr ‘na: neges gan ffrind caredig fy mam. Ond dw i ddim yn gallu darllen ei nodyn hi achos dw i ddim yn gallu darllen emojis, a dw i ddim yn gallu darllen y llyfr achos alla i ddim darllen Cymraeg. ’Cymraes Llundain’ yw fy mam ond dw i wedi colli fy mamiaith. 

Mae’r llyfr hwn yn edrych fel rhywbeth o siop sy’n gwerthu canhwyllau ac arogldarth. Beth am deitl y llyfr?
Yn ôl Google Translate ……. ……. ……. Traffic Lights?!

Ar bob tudalen: ‘Gair y Mis’.

Gair y Mis Mawrth:   ‘Anadl’
Llun o ferch hollol berffaith, hunanfoddhaus yn myfyrio.
Dw i’n meddwl am y ferch yn y llyfr wrth yrru.
Mae hi’n ddieithryn o fyd arall.

Pan mae pethau’n newid, maen nhw’n newid mor gyflym… mor gyflym â’r gwanwyn. Mae Llundain wedi rhewi yn yr heulwen oer heddiw a’i strydoedd hyllaf yn disgleirio gyda goleuni annaearol.

Mae fy mws yn llawn ond mae pobl dal yn aros wrth bob safle bws. “Thank you, driver!” medden nhw a dw i’n dal fy ngwynt bob tro.

Gair y Mis Ebrill:  ‘Llonydd’
Llun o ferch gydag awra aur. 
Mae fy mws yn sownd mewn clo grid yn Peckham eto.
Goleuadau traffig a lonydd bysiau? Dw i angen y llawlyfr.

Gair y Mis Mai:  ‘Cartref’
Mae’r ferch yn y llun yn gwisgo dillad ioga dylunydd yn ei lolfa.
You probably noticed I am writing this in Welsh. Wel, dw i’n dysgu, wrth gwrs, ac mae fy mam yn trio cywiro fy ngramadeg pan dyn ni’n siarad ar y ffôn. Ond, y tro hwn, fi sy’n iawn, a hi sy’n anghywir; felly, dw i’n ailadrodd: ‘Fi’ sy’n beryglus i ‘chi’, mam.

Gair y Mis Mehefin:   ‘Cwtsh’ 
Llawlyfr weithgareddau gwaharddedig yw’r llyfr hwn?
Yn y lluniau, mae’r ferch ‘na yn wastad ar ei phen ei hun, on’d yw hi?

Mis Gorffennaf
Pedwar peth:
1. Dw i dal i fyw ar ynys Tŷ Perffaith… dw i’n ynysu!
2. Dw i byth yn mynd i orffen y llawlyfr twp.
3. Does ddim awra aur gyda fi, ta beth.
4. Prynais i lyfrau drud, dwys – geiriaduron, gwerslyfrau – er mwyn dysgu sut i ddarllen “Goleuedigaeth mewn Deuddeg Gair: y llawlyfr”.
Ie, dyna’r teitl.

Dw i’n teimlo fel petai rywbeth wedi newid bellach.

Mae’r dyddiau’n ymestyn: dw i byth yn cynnau’r canhwyllyr.
Ar nosweithiau golau’r haf, mae gyda’r tŷ deimlad o fwy o ‘le’ ynddo. Oes stafell arall yn y Tŷ Perffaith?

Mae’n rhy dywyll nawr i sgwennu, ond, dyma fi, gyda’r nos, yn trio ffeindio’r geiriau Cymraeg i ddweud fy hanes. Mae’r stori honno’n well yn fy mamiaith. Weithiau, dw i’n teimlo fel gair Cymraeg newydd oedd yn aros amdana: y gair perffaith. Gair dw i wastad wedi ei adnabod ond wedi anghofio. Allai fod ystafell gyfrinachol y tu mewn i fi?

“Follow the Light,” medden nhw yn ffilmiau. Ac yna… Ie, mae rhywbeth yn goleuo: mae llinell denau o olau arian yn disgleirio o arallfyd, yn fy arwain ar draws y llawr – jyst llygedyn, jyst sglein – i’r ystafell gudd honno.


© Sarah Williams February 2023





Contents – Cynnwys

.

, ,

2 responses to “Thank You,Drive! Y llawlyfr”

  1. Louiseasy avatar
    Louiseasy

    Will you be writing it in English too? I loved your other blog and want to read

    Like

  2. Sarah avatar
    Sarah

    Hello, Louiseasy – thanks very much for all your comments on my blog. I won’t be translating on the blog: stories will either be in Welsh or English, but I will be posting a new strange story in English soon.

    Like

Leave a reply to Sarah Cancel reply