Cymuned o Goed


Llun gan Martin Godwin, o’i gyfres o ffotograffau o Bromley gyda’r nos; cyfnod clo, 2020

Dim ond yn ddiweddar y penderfynais fod rhaid i fi fynd am dro bob bore– neu gerdded bant o berygl falle. Dyna pryd y cofiais y gymuned o goed. Yn 2021 oedd hi? Alla ddim cofio’r cyfnod ’na yn glir.

Nid oedd y cam cyntaf mor anodd. Does dim problem gyda fy nhraed. Ro’n i’n cerdded yn ling di long i’r gwaith bob bore gwyn, cofia! Y byd y tu mas i fy fflat, dyna’r broblem. Ar fore gaeafol, mae’r glaw mân yn fy nghysuro.

Mae clo ar ddrws y caffi Twrcaidd. Byddai’r holl ysgubwyr ffyrdd Lewisham yn ymgynnull yma, gyda cherti a brwsys, dros y pandemig. Te melys a sgwrs yn y bore! Ro’n ni i gyd yn eiddigeddus o gymuned fach y palmant.

Dw i’n dechrau cynllunio fy ngwaith cartref Cymraeg wrth gerdded. Pob wythnos, dwi’n dewis brawddeg o lyfr i’w defnyddio yn fy ngwaith. Wythnos hon: “Roedd ei hwyneb yn cael ei adlewyrchu yn y llyn.” Mae’n dipyn o her darganfod llyn wrth grwydro o amgylch Llundain.

Dw i wedi cyrraedd y parc: fy hoff le dros gyfnod clo. Roeddwn i’n arfer eistedd ar y boncyff hwn. Byddai llethr y parc yn fy atgoffa o fy mro y tu hwnt i’r ffin dan glo. Mae’r dderwen, o ble daeth y boncyff, yn sefyll ychydig droedfeddi i ffwrdd. Roedd dail y goeden yn byseddu’r ddaear yn yr haf ‘na.

Llun gan Martin Godwin, o’i gyfres o ffotograffau o Bromley gyda’r nos; cyfnod clo, 2020

Roedd dirgelwch am y goeden: “Y Llais”. Clywais y llais bob dydd, dwi’n cofio, yn siarad yn ddi-baid o dan ganopi’r goeden. Rhyw fath o ysbryd? Derwydd modern? Rhywun digartref?

Gwnes i sbecian drwy lenni deiliog i weld dieithryn mewn siwt swanc gyda iPhone newydd sbon: dyn oedd yn defnyddio stwmp gwastad ar waelod y goeden fel desg. Roedd ei liniadur yn disgleirio yng ngolau gwyrdd rhyfedd y goeden wrth gynhyrchu taenlenni yn awtomatig. Efallai ei fod jyst rhywun braidd yn agoraffobig, fel fi; efallai ei fod jyst rhywun sy’n ofni mynd adre rhag ofn iddo fynd yn sownd yno. Sylwais ar bobl yn y parc yn eistedd y pellter gofynnol ar wahân, ond i gyd yn agos iawn at goed, fel pobl wedi’u plygio i mewn i rywbeth cuddiedig.

Rhoddais y gorau i eistedd ar y boncyff derw ar ôl ychydig: roeddwn i’n eistedd ar ddarn o swyddfa’r dyn, yn fwy na thebyg.

Heddiw, mae’r gymuned o goed wedi ei hollti. Mae ‘lanyard’ yn hongian yn llipa ar gangen goeden afalau. Does dim wyneb ar y cerdyn adnabod – dim ond drychiolaeth welw.

Dw i’n cerdded adref heibio’r siopau. Am funud, dwi’n meddwl bo fi’n gallu gweld fy nelwedd mewn ffenest siop– mae’r ddau ohonon ni yn codi llaw ac yn gwenu’r un pryd– nes i fi sylweddoli taw siopwraig gyfeillgar yw hi.

Hon yw fy nghymuned nawr, am wn i.

Mae goleuadau gwan y siopau yn disgleirio ar y palmant soddedig. Galla i ddefnyddio’r frawddeg “Roedd ei hwyneb yn cael ei adlewyrchu yn y llyn,”
wedi’r cyfan.

Llun gan Martin Godwin, o’i gyfres o ffotograffau o Bromley gyda’r nos; cyfnod clo, 2020

Contents – Cynnwys

,

Leave a comment